Croeso i Barc Gwledig Cwm Dâr...
Llai na milltir o Aberdâr, mae 500 erw o gefn gwlad, teithiau cerdded a llwybrau i'r holl deulu eu mwynhau.
Llai na milltir o Aberdâr, mae 500 erw o gefn gwlad, teithiau cerdded a llwybrau i'r holl deulu eu mwynhau.
Ydych chi'n chwilio am bethau i'w gwneud a'u gweld yn Ne Cymru? Dewch i Barc Gwledig Cwm Dâr – mae ganddo rywbeth at ddant pawb.
Pethau i'w gwneud a'u gweld ym Mharc Gwledig Cwm Dâr:
- galw heibio ein Canolfan i Ymwelwyr ryngweithiol
- cerdded ar hyd ein rhwydweithiau o lwybrau cefn gwlad
- mwynhau gweld ein hadar, cefn gwlad a golygfeydd godidog
- aros yn ein maes carafanau a gwersylla
- aros yn ein gwesty sy wedi'i adnewyddu - cyfle i ymlacio ar ôl taith gerdded hir
- ymlacio yn ein caffi, Y Cwtsh
- neu aros yn y parc gwledig er mwyn ymweld â Chymoedd y De a Bannau Brycheiniog neu ymweld â Chaerdydd, prifddinas Cymru
Mae Parc Gwledig Cwm Dâr, ger Aberdâr yn cynnig amrediad eang o achlysuron i'r teulu, teithiau cerdded â thywysydd, sgyrsiau a diwrnodau hwyl drwy gydol y flwyddyn.
Dewch ag offer awyr agored a cherdded priodol!