Polisi Preifatrwydd
Sut rydyn ni'n diogelu a pharchu eich data
Mae'r datganiad preifatrwydd yma yn ymwneud â gwefan www.darevalleycountrypark.co.uk yn unig.
Fyddwn ni ddim yn casglu unrhyw wybodaeth amdanoch chi oni bai'r wybodaeth sydd ei hangen arnon ni i weinyddu ein gweinydd we, yn ogystal â'r wybodaeth sydd ei hangen arnon ni i anfon diweddariadau am dwristiaeth yn Rhondda Cynon Taf a Pharc Gwledig Cwm Dâr.
Efallai bod www.darevalleycountrypark.co.uk yn cynnwys dolenni i wefannau eraill, boed hynny'n gwefannau adrannau'r llywodraeth neu sefydliadau eraill. Mae'r polisi preifatrwydd yn berthnasol i'n gwefan ni yn unig. Dylech chi, felly, fod yn ymwybodol wrth symud o un wefan i'r llall a darllen polisi preifatrwydd unrhyw wefan sy'n casglu gwybodaeth bersonol.
Dydyn ni ddim yn rhoi unrhyw wybodaeth rydych chi'n ei rhoi i ni i unrhyw wefan arall.
Bydd y system yma'n cofnodi eich cyfeiriad e-bost ac unrhyw wybodaeth arall os ydych chi'n rhoi'r manylion yma i ni. Byddwn ni'n trin y manylion yma yn gyfrinachol ac yn eiddo i chi. Mae'n bosibl y caiff y manylion eu defnyddio i gynnal adolygiad mewnol ac i roi gwybod i chi am unrhyw ddiweddariadau i www.darevalleycountrypark.co.uk ac at ddibenion marchnata.
Newidiadau i'r polisi preifatrwydd
Os bydd y polisi preifatrwydd yma'n newid mewn unrhyw ffordd, byddwn ni'n diweddaru'r fersiwn ar y dudalen yma. Gall unigolyn ymweld â'r dudalen hon yn rheolaidd er mwyn sicrhau ei fod yn ymwybodol o'r wybodaeth rydyn ni'n ei chasglu, sut rydyn ni'n ei defnyddio ac o dan ba amgylchiadau, os o gwbl, y byddwn ni'n ei rhannu ag unrhyw un arall.