Llwybrau a theithiau cerdded
Mae Parc Gwledig Cwm Dâr yn lle gwych i fynd am dro. Cewch chi grwydro o amgylch y parc gwledig neu ddilyn yr arwyddion ar hyd un o'r teithiau cerdded.
Mae'r holl deithiau cerdded yn dechrau wrth y ganolfan i ymwelwyr.
- Mae Llwybr y Bwllfa yn daith gerdded ar hyd llwybrau gwastad ag wyneb arnyn nhw, ac mae llwybr byrrach ar gael, ar darmac, ar gyfer cadeiriau gwthio a chadeiriau olwyn.
- Mae Llwybr Cae Mawr yn eich arwain chi ddiarffordd ar hyd llwybrau cefn gwlad, i fyny'r bryn a thros gamfeydd.
- Mae Llwybr Penrhiwllech yn dilyn llwybr siâp pedol allan o'r cwm, o amgylch Tarren y Bwllfa ac i fyny'n uchel i lwyfandir yr uwchdir ar hyd llwybrau cefn gwlad a thros gamfeydd a thir garw.
Mae Llwybr y Bwllfa yn daith gerdded ar hyd llwybrau gwastad ag wyneb arnyn nhw, ac mae llwybr byrrach ar gael, ar darmac, ar gyfer cadeiriau gwthio a chadeiriau olwyn. O'r ganolfan i ymwelwyr, dilynwch y saethau coch ar y pyst coch. Tua 2 filltir (3.5km) o hyd. Milltir (2km) o hyd i gadeiriau gwthio.
Mae Llwybr Cae Mawr yn eich arwain chi ddiarffordd ar hyd llwybrau cefn gwlad, i fyny'r bryn a thros gamfeydd. Mae'n bosibl bydd y llwybr yn wlyb ac yn anwastad mewn mannau, felly, bydd eisiau gwisgo esgidiau cadarn. O'r ganolfan i ymwelwyr, dilynwch y saethau glas ar y pyst glas. Tua 2.5 filltir (4km) o hyd.
Mae Llwybr Penrhiwllech yn dilyn llwybr siâp pedol allan o'r cwm, o amgylch Tarren y Bwllfa ac i fyny'n uchel i lwyfandir yr uwchdir ar hyd llwybrau cefn gwlad a thros gamfeydd a thir garw. Bydd eisiau gwisgo esgidiau cadarn a dillad addas. Mae clogwyni ger y llwybr, a does dim ffens. O'r ganolfan i ymwelwyr, dilynwch y saethau melyn a'r pyst melyn. Tua 4 milltir (6 km) o hyd.
Lawrlwytho taflen y teithiau cerdded
Rhan 1 – cliciwch yma
Rhan 2 – cliciwch yma